Ymson 2 / Soliloquy 2
Llais Man Son Voice Murmur
The Gap In Memory of R.S. Thomas
Y Cyfarfyddiad – Marwnad / The Meeting – Elegy
Y Cyfarfyddiad – Y Drych / The Meeting – The Mirror
Y Cyfarfyddiad – Drysfa / The Meeting – Labyrinth
Llateies – Breuddwyd / Messenger – Dream

Artist yw Christine Kinsey, sy’n ysgrifennu ac yn integreiddio geiriau i broses greadigol ei hiaith weledol. Mae ei gwaith yn cyflwyno casgliad o gymeriadau benywaidd ynghyd â naratif sy’n seiliedig ar hanes ei bywyd o’i phlentyndod.

Yn gefndir i’r cymeriadau hynny a’r hyn y maen nhw’n ei gyfleu y mae’r dylanwadau a fu ar fywyd yr artist, hynny yw, ei magwraeth benywaidd yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, ei hymwybyddiaeth o’i Chymreictod, a’i hailasesiad o ganfyddiad a phortread y diwylliant Cristnogol gorllewinol o ferched.

Mae ei lluniau’n cynnwys nodweddion a symbolau sy’n rhoi dehongliad newydd o ddelwedd draddodiadol y ferch a hynny er mwyn amlygu ymgais barhaus ei chymeriadau benywaidd i fod yn destun yn hytrach nag yn wrthrych y llun. Mae’r lluniau hefyd yn ein harwain drwy ddychymyg yr artist i ystyried y materol, yr ysbrydol a’r berthynas rhwng y ddau.


Loading